Our Garden, Our Future
Ein Gardd, Ein Dyfodol
Tyfu dyfodol gwahanol o'r ddaear i fyny
Menter wedi'i lleoli yng Nghymru yw Ein Gardd, Ein Dyfodol, sy'n edrych ar sut all cymunedau chwarae rôl gryfach wrth ofalu am ein tir, tyfu bwyd, adfer byd natur a llunio'r lleoedd y maent yn eu galw'n adref.
Newyddion Diweddaraf
Byddwn yn cefnogi cymunedau i ddatblygu'r cysyniad o stiwardiaeth ryng-genedlaethol, wrth greu man naturiol ar gyfer eu cymuned, meithrin bywydau gyda bwyd a mynediad i fyd natur, gan gryfhau'r synnwyr o berthyn. Bydd y cysyniad hwn yn rhan o newid y naratif ar stiwardiaeth tir yng Nghymru.
Gyda chefnogaeth Sefydliad Esmée Fairbairn, mae'r prosiect hwn wedi'i ysgogi gan y prosiect 'Saith Cenhedlaeth' sy'n gydweithrediad rhwng Rights Community Action ac Incredible Edible. Gyda'i gilydd, maent yn edrych ar sut all gweithred leol ymarferol sefyll ochr yn ochr â'r newidiadau cyfreithiol a chynllunio ehangach sydd eu hangen i gefnogi cymunedau dros yr hirdymor ynghylch tir.
Ym mhob lle, bydd y gwaith yn edrych ychydig yn wahanol - dyna ran o'r bwriad. Bydd perthnasoedd lleol, hanesion lleol ac uchelgeisiau lleol yn llywio'r hyn sy'n digwydd ar y ddaear. Ond gyda'i gilydd, gall y lleoedd hyn helpu i ddangos sut olwg fyddai ar ddyfodol mwy cymunedol i dir a lle yng Nghymru, gyda’i pherthynas unigryw â thir.
Mae sawl grŵp cymunedol eisoes yn gofalu am ac yn tyfu ar rannau bach o dir cyhoeddus, ond mae'r trefniadau hyn yn aml yn anffurfiol ac yn gallu cael eu tynnu'n ôl heb fawr o rybudd. Bydd 'Ein Gardd, Ein Dyfodol' yn eirioli dros gymunedau i sicrhau hawl barhaol i dyfu ac egwyddor newydd sy'n pontio'r cenedlaethau o stiwardiaeth tir.
Cynnwys y prosiect
Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â mwy na safleoedd unigol.
Mae'n ymwneud â sut all cymunedau ofalu am dir mewn modd sy'n cefnogi tyfu bwyd, byd natur, cysylltiadau a gwytnwch lleol. Mae hefyd yn ymwneud â p'un ai oes gan bobl leol gefnogaeth, mynediad a'r dylanwad sydd eu hangen arnynt i chwarae rhan barhaol yn eu cartrefi.
Golyga hyn weithredu ymarferol ar y ddaear, ond mae hefyd yn golygu gofyn cwestiynau mwy am dir, cyfranogiad a phwy sy'n cael llywio dyfodol lle.
Pam ei fod yn bwysig
Ledled Cymru, mae'r lleoedd lle maent yn byw yn bwysig iawn i gymunedau. Maent yn llawn gwybodaeth, atgofion a chysylltiadau. Ond, yn rhy aml, gofynnir iddynt ymateb i benderfyniadau yn hytrach na helpu i'w llywio.
Mae'r prosiect hwn yn edrych ar ddull gwahanol, un â'i wreiddiau mewn gweithredu lleol, rhannu cyfrifoldebau ac ein gorffennol, presennol a'n dyfodol. Ei fwriad yw meithrin gwell perthynas rhwng cymunedau, tir a lle dros amser.
Y bartneriaeth
Daw Rights Community Action ag arbenigedd mewn hawliau, cyfranogiad, cynllunio a newid polisi.
Daw Incredible Edible â dull ymarferol sy'n seiliedig ar le, wedi'i wreiddio mewn tyfu, gweithredu gweledol a chysylltiad cymunedol.
Bydd cydlynwyr a chymunedau lleol yn llywio sut mae'r prosiect yn datblygu ym mhob lle, gan ddod â'r wybodaeth, y perthnasoedd a'r dychymyg sy'n gwneud y gwaith yn real.
Cymerwch ran
Ymunwch â phrosiect lleol yn eich ardal chi - cysylltwch ag Incredible Edible:
Celia - Conwy a Sir Ddinbych
E-bost: celia.williams@incredibleedible.org.uk
Instagram: @spacetogrow15
Lizzie - Gwynedd a Phowys
E-bost: lw@incredibleedible.org.uk
Instagram: @ediblemadog
Ymunwch â'r alwad genedlaethol i weithredu er mwyn sicrhau newidiadau cyfreithiol a chynllunio